Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
GYRFAOEDD    AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Horizon Nuclear Power

AMDANOM NI

Mae Pŵer Niwclear Horizon yn gwmni ynni yn y DU sy'n datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear. Yn fenter ar y cyd rhwng E.ON UK a RWE npower, rydym yn bwriadu darparu rhyw 6,000 MW o allu cynhyrchu pŵer niwclear newydd yn y DU erbyn 2025. Mae'r rhaglen yn debygol o olygu buddsoddiad o dros £15bn.


Rydym yn credu y gall pŵer niwclear chwarae rhan allweddol yn cwrdd â'r her o gynnal cyflenwadau ynni fforddiadwy a diogel i'r DU, wrth fynd i'r afael a bygythiad byd eang newid hinsawdd. Dyma pam yr ydym yn chwarae rhan arweiniol yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o orsafoedd pŵer niwclear yn y DU.

Bydd gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn helpu Prydain i gyrraedd targedau lleihau allyriadau, creu miloedd o swyddi newydd yn y cymunedau y maent wedi eu lleoli ynddynt, ynghyd a miloedd mwy o swyddi ar gyfer cwmniau'r DU. Gallai pob gorsaf bŵer newydd greu rhyw 800 o swyddi parhaol a hyd at 5,000 o swyddi adeiladu yn ystod y cyfnod adeiladu.


E.ON UK

Mae E.ON UK yn un o'r prif gwmnïau pŵer a nwy cyfannol - yn cynhyrchu a dosbarthu trydan, a manwerthu pŵer a nwy. Mae E.ON UK yn rhan o grŵp E.ON, y cwmni pŵer a nwy mwyaf yn y byd sy'n eiddo i'r buddsoddwyr.  Am fwy o wybodaeth...


 

Mae RWE npower yn un o'r prif gwmnïau ynni cyfannol yn y DU, sy'n gweithredu portffolio hyblyg o orsafoedd wedi eu tanio gan lo, olew a nwy ac sy'n cyflenwi nwy a thrydan i gwsmeriaid preswyl a busnes trwy ei fusnes manwerthu, npower. Mae RWE npower yn rhan o'r RWE Group, un o brif gwmniau cyfleustodau Ewrop. Am fwy o wybodaeth...