Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
GYRFAOEDD    AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Consultation and communication

EIN SAFLEOEDD

Wrth i ni fynd trwy'r broses o ganfod, asesu a datblygu safleoedd ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear newydd, rydym yn ymrwymedig i'r lefel uchaf o ymgynghori a chyfathrebu gyda chymunedau a rhanddeiliaid ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.


Mae'r Llywodraeth wedi nodi'r broses ar gyfer enwebu safleoedd posib ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear newydd sy'n cael ei alw'n Asesiad Lleoli Strategol (SSA). Ceir gwybodaeth ynglŷn â'r broses SSA ar https://www.energynpsconsultation.decc.gov.uk/.

Rydym wedi sicrhau tir yn Wylfa ar Ynys Môn, gogledd Cymru ac yn Oldbury-on-Severn, de Swydd Gaerloyw fel rhan o broses arwerthu gystadleuol sy'n cael ei rhedeg gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Ym mis Mawrth 2009 enwebwyd y ddau safle hyn gennym yn yr Asesiad Lleoli Strategol.

Ar ddydd Llun 9 Tachwedd 2009, cyhoeddodd y Llywodraeth ddrafft o'r 'Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol' (NPS) oedd yn cynnwys rhestr o'r safleoedd y mae'n credu sy'n strategol addas ar gyfer adeiladu newydd. Mae'r drafft hwn ar gael bellach ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chaiff ei gytuno'n derfynol yn hwyrach eleni (2010). Ceir manylion ynglŷn â'r NPS drafft ar y wefan uchod. Mae ein dau safle yn ymddangos ar y rhestr.

Cafodd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC) ei greu dan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae'r IPC yn gorff annibynnol sy'n cymeradwyo neu wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer holl Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (Nhsips), sy'n cynnwys adeiladu niwclear newydd. Mae gan adborth o ymrwymiad ac ymgynghoriad cyhoeddus statudol fewnbwn mawr i'r ceisiadau caniatâd cynllunio manwl a'r Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer y ddau safle.

Amserlen yr Asesiad Lleoli Strategol

Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) wedi nodi bod angen dilyn y broses ganlynol er mwyn datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd.

31ain Mawrth 2009
Dyddiad cau ar gyfer enwebu safleoedd sydd eisiau cael eu hystyried o fewn y broses Asesiad Lleoli Strategol.

15fed Ebrill 2009
Y Llywodraeth yn cyhoeddi rhestr o safleoedd wedi eu henwebu gan gwmnïau ynni a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Ar yr adeg hon roedd gan y cyhoedd un mis i wneud sylwadau dechreuol, cyn ymgynghoriad pellach yn hwyrach yn y flwyddyn.

Haf / Hydref 2009
Y Llywodraeth yn asesu pob lleoliad i benderfynu a yw'n cwrdd â nifer o feini prawf addasrwydd.

9fed Tachwedd 2009
Cyhoeddi rhestr ddrafft o ddeg safle ar gyfer ymgynghoriad a chraffu Seneddol fel rhan o'r NPS Niwclear: Bradwell (Essex); Braystones (Cumbria); Hartlepool (Bwrdeistref Hartlepool, Dyffryn Tees); Heysham (Swydd Gaerhirfryn); Hinkley Point (Gwlad yr Haf); Kirksanton (Cumbria); Oldbury (Swydd Gaerloyw); Sellafield (Cumbria); Sizewell (Suffolk); Wylfa (Ynys Môn).

22ain Chwefror 2010
Bydd y cyfnod ymgynghori'n dod i ben a bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion a gafwyd. Bydd y Senedd yn parhau i ymchwilio'r cynigion. Bydd y drafft o'r NPS Niwclear yn cael ei newid yn ôl yr angen, ei gytuno'n swyddogol (dynodi), gyda rhestr derfynol o safleoedd yn gynwysedig.

2010 ymlaen
Gall datblygwyr wneud cais i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC) am ganiatâd cynllunio i ddatblygu gorsaf bŵer niwclear newydd. Cyn gwneud cais, byddai disgwyl i ddatblygwr gynnal asesiad o effaith amgylcheddol eang ac ymgynghoriad gyda chymunedau sy'n cael eu heffeithio.

Disgwylir y bydd gorsaf bŵer niwclear newydd cyntaf Pŵer Niwclear Horizon yn cynhyrchu erbyn 2020.

Ceir mwy o wybodaeth am broses NPS Niwclear y Llywodraeth ar wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.