Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Biblis Nuclear Power Station

GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH

Mae datblygu gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn gofyn am lefel sylweddol o fuddsoddiad ac arbenigedd. Gyda chefnogaeth ein prif gwmnïau E.ON a RWE, mae gan Pŵer Niwclear Horizon y sefydlogrwydd ariannol, yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi ein rhaglen o ddatblygiad.


Ein nod yw trwyddedu rhyw 6GW o adeiladu niwclear newydd, gyda'r orsaf gyntaf yn dechrau cynhyrchu erbyn diwedd y ddegawd nesaf. Mae'r rhaglen yn debygol o olygu buddsoddiad o dros £15bn.

Mae E.ON a RWE eisoes yn gydberchnogion ar dri adweithydd niwclear yn yr Almaen ac maent yn randdeiliaid mewn cyfanswm o 23 o adweithwyr niwclear eraill mewn gorsafoedd pŵer yn yr Almaen a Sweden.

Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda chyflenwyr ynni eraill, darparwyr technoleg, cymunedau ac undebau er mwyn creu'r cynlluniau mwyaf diogel ac effeithiol er mwyn darparu'r pŵer diogel yr ydym ei angen ar gyfer y dyfodol.

Mae adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn allweddol wrth gwrdd ag anghenion ynni'r DU a lleihau dwysedd carbon deuocsid. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn niwydiant pŵer y DU yn ystod y degawd nesaf er mwyn adeiladu gorsafoedd newydd i gymryd lle gorsafoedd pŵer glo a nwy sy'n heneiddio a thrwy hynny, helpu i gyflenwi economi carbon is, fforddiadwy.