![]() CWESTIYNAU CYFFREDIN |
|
Mae tir ger gorsaf bŵer bresennol Oldbury yn un o 10 safle yn y DG sydd wedi eu cynnwys yn nrafft y Llywodraeth o Ddatganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol (NPS) fel safleoedd sy'n cael eu hystyried yn addas ar gyfer adeiladu niwclear newydd. Rydym yn credu bod y safle yn Oldbury yn cwrdd â'r holl feini prawf a nodwyd gan y Llywodraeth fel rhan o'i Asesiad Lleoli Strategol (SSA) ar gyfer datblygu niwclear newydd, yn cynnwys y gofyniad ei fod yn gallu bod yn weithredol erbyn 2025. Mae gan y safle fanteision penodol am ei fod yn agos at orsaf bŵer niwclear sy'n bodoli eisoes - fel cysylltiad gyda'r grid a seilwaith. Rydym yn bwriadu cynhyrchu hyd at ryw 3,300 MW (megawat) o drydan newydd ac mae gennym eisoes gytundeb i gysylltu gyda'r Grid Cenedlaethol ar gyfer hyn. Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y gallai gorsaf bwer niwclear newydd yn Oldbury olygu naill ai dau adweithydd 1,650MW Areva EPR neu hyd at dri adweithydd 1,100MW Westinghouses. Mae'r gwahaniaeth yn y nifer o adweithwyr yn codi o'r gwahaniaethau yn faint o drydan y mae'r ddau gynllun yn gallu ei gynhyrchu. Mae'r Llywodraeth wedi sefydlu proses o'r enw Asesiad Cynllunio Generig (GDA) i sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer adweithydd sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cwrdd â gofynion meini prawf iechyd, diogelwch ac amgylchedd. Mae UK EPR Areva ac AP1000 Westinghouse yn cael eu gwerthuso gan yr Arolygaeth Safleoedd Niwclear (NII) fel rhan o'r broses hon. Mae'n rhy gynnar i ddweud sut fyddai gorsaf newydd yn edrych am ei bod yn dibynnu ar ba gynllun adweithydd y byddwn yn ei ddewis. Rydym yn cydnabod bod effaith weledol yr orsaf arfaethedig yn achosi pryder i bobl leol, felly rydym wedi cynhyrchu dau fraslun i ddangos sut y gallai gorsaf newydd edrych yn seiliedig ar y ddau gynllun posib. Mae'r ddau fraslun i'w gweld o fewn ein Adroddiad Cwmpasu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) Ar hyn o bryd rydym yn cynnal astudiaeth i nodi'r dechnoleg tyrau oeri mwyaf addas ar gyfer y safle gan ystyried cydbwysedd o agweddau amgylcheddol (yn cynnwys effaith gweledol) , technegol a masnachol. Pan fydd yr astudiaeth hon wedi ei chwblhau byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion gyda'r gymuned leol ac ehangach cyn gwneud penderfyniad terfynol. Fel rhan o'n Asesiad Effaith Amgylcheddol mae angen i ni ddangos ein bod wedi ystyried pob dewis arall ar gyfer oeri a'r rhesymau dros y cynllun y byddwn yn ei ddewis yn derfynol. Byddai gorsaf newydd yn Oldbury yn gallu cynhyrchu llawer mwy o drydan na'r orsaf sy'n bodoli eisoes. O ganlyniad byddai angen system oeri 'anuniongyrchol' ar y naill gynllun neu'r llall a fyddai angen tyrau oeri am na fydd yr aber yn gallu ymdopi gyda faint yn fwy o ddŵr oeri fyddai ei angen. Rydym yn cynnal astudiaeth i benderfynu pa dechnoleg oeri sydd fwyaf addas, gan werthuso cydbwysedd o agweddau technegol, masnachol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar effeithiau gweledol ar draws pellter eang o'r safle arfaethedig. Mae'r astudiaethau hyn yn edrych ar bob dewis posib ac yn canolbwyntio ar ddau brif fath o dwr oeri, drafft naturiol (NDCT) a thyrau croesryw drafft wedi ei orfodi. Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl y bydd gorsaf gyda dau adweithydd EPR angen pedwar twr oeri - dau i bob adweithydd. Byddai gorsaf AP1000 gyda thri adweithydd angen tri thwr oeri - un i bob adweithydd. Byddai maint y tyrau yn wahanol ym mhob achos ond fe fyddant rhwng 70 i 200metr o uchder. Pan fydd yr astudiaeth hon wedi ei chwblhau byddwn yn ymgynghori gyda'r gymuned leol ac ehangach ynglŷn â'n cynigion wrth iddynt ddatblygu. Mae'n ofynnol i ddiogelu safleoedd niwclear rhag perygl o lifogydd o 1 mewn 10,000 y flwyddyn. Mae cynigion i sicrhau'r lefel hwn o ddiogelwch yn cael eu datblygu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Arolygaeth Safleoedd Niwclear (NII) ac maen nhw'n debygol o gynnwys cyfuniad o godi safle ochr yn ochr â gwelliannau i'r mesurau diogelu rhag llifogydd sydd eisoes yn bodoli. Pa bynnag gynllun fydd yn cael ei gynnig yn y pen draw bydd yn rhaid i ni ddangos nad yw ein mesurau diogelu rhag llifogydd yn cynyddu'r perygl o lifogydd mewn mannau eraill yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae dwy linell uwchben 132kV yn cysylltu gorsaf bresennol Oldbury i'r Grid Cenedlaethol. Er mwyn gallu allforio'r trydan fydd yn cael ei gynhyrchu gan ein gorsaf newydd arfaethedig, bydd angen uwchraddio'r ddwy linell i 400kv. Bydd y gwelliannau hyn yn golygu cynyddu gallu'r llinellau sy'n bodoli eisoes i gynhyrchu a'u harallgyfeirio o'r is-orsaf 132kV bresennol ger gorsaf Magnox Oldbury i is-orsaf 400kV newydd fyddai'n cael ei adeiladu nesaf at safle'r orsaf bŵer arfaethedig. Tra byddai'r mwyafrif o'r tyrau ar hyd y ffordd yn parhau yn eu lle, byddai angen tyrau a llinellau uwchben yn eu lle yn agos at y safle, a byddai unrhyw dyrau a llinellau segur yn cael eu symud oddi yno. Bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud gan y Grid Cenedlaethol (NGET) fydd yn cynnal ei broses ymgynghori cyhoeddus ei hun ar yr agwedd hon o'r cynllun. Mae tri rhan allweddol i'r drefn gynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr fel gorsafoedd pŵer niwclear newydd.
1. Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSs) Unwaith i'r ymgynghoriad hwn gael ei gwblhau, bydd NPS drafft gyda safleoedd awgrymedig yn cael eu rhoi gerbron y Senedd er mwyn cymeradwyaeth yn hwyrach eleni. Wedi hynny, byddai gofyn i ddatblygwyr unigol, fel Pŵer Niwclear Horizon, geisio am ganiatâd cynllunio ac eraill i adeiladu gorsaf bŵer newydd a byddai hyn yn golygu ymgynghoriad cyhoeddus pellach.
2. Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Ymgeisio Wedyn, mae dwy rownd o ymgynghoriad cyhoeddus yn debygol o ddigwydd. Bydd y cyntaf ar ein cynlluniau, materion a dewisiadau rhagarweiniol a'r ail ar y cynigion a ffafrir. Bydd yr ymgynghoriadau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol a fydd yn llunio rhan o'r Datganiad Amgylcheddol - dogfen allweddol arall a fydd yn cyd-fynd gyda'n cais am gynllunio. Yna byddwn yn cynhyrchu Adroddiad Ymgynghoriad ar sut y cynhaliwyd ymgynghoriad cymunedol, yr ymatebion a dderbyniwyd a, gyda chyfiawnhad perthnasol, sut y gwnaeth yr ymatebion hynny ddylanwadu ar y datblygiad. Rhaid i'r adroddiad hwn gael ei gynnwys fel rhan o'r cais i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC), y corff newydd sy'n gyfrifol am ganiatáu neu wrthod ceisiadau am gynllunio fel ein rhai ni.
3. Cyfnod Archwiliad IPC Bydd y Comisiwn wedyn yn nodi amserlen ar gyfer y broses archwilio, a fydd yn cynnwys cyfle pellach i gymunedau gymryd rhan a lleisio barn trwy gyfrwng cynigion ysgrifenedig a, ble bo angen, gwrandawiadau 'llawr agored'. Rydym yn ymroddedig i gyfathrebu clir a thryloyw a byddwn yn parhau i ymrwymo cymunedau lleol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein cynigion. Yn ogystal, mae'r drefn gynllunio newydd yn cynnwys gofyniad mwy ffurfiol am ymgynghoriad cyn ymgeisio gyda phobl leol ble byddwn yn chwilio am fewnbwn ac adborth ar ein cynlluniau.
Rydym wedi datblygu siart sy'n nodi'r camau gwahanol yn y drefn gynllunio newydd nac mae hwn yn dangos ble gall unigolion a chymunedau gael y cyfle i leisio barn ar ein cynigion. Gallai gorsaf bŵer newydd yn Oldbury greu rhyw 5,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda 800 o swyddi parhaol yn cael eu creu pan fydd yr orsaf yn weithredol. Yn ystod cyfnodau o gynnal a chadw, disgwylir y bydd nifer y gweithlu'n cynyddu i dros 1,000 o bobl. Byddai gorsaf bŵer fawr, fel yr un yr ydym yn gobeithio ei adeiladu yn Oldbury, hefyd yn chwistrellu symiau sylweddol o arian bob blwyddyn i'r economi leol trwy gyflogaeth anuniongyrchol a'r galw am nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau lleol. CYSYLLTU  NIOs oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu faterion yr hoffech eu trafod gyda ni, ffoniwch ein llinell ffôn am ddim ar 0800 130 3125 Neu e-bostiwch ni ar oldburyenquiries@horizonnuclearpower.com Mae e-byst sy'n cael eu hanfon at y cyfeiriad blaenorol oldburyenquiries@eon-uk.com yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at dîm Oldbury. Gweld Cwestiynau Cyffredin View Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Wylfa Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Oldbury |



