Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
GYRFAOEDD    AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
FAQ

CWESTIYNAU CYFFREDIN





Mae Wylfa eisoes yn safle gorsaf bŵer niwclear ac yn lleoliad gwych ar gyfer gwaith newydd posib a fyddai'n cyflenwi pŵer carbon isel y mae angen mawr amdano. Mae poblogaeth Ynys Môn, ynghyd a grwpiau gwleidyddol a busnesau, wedi bod yn gefnogol i'r syniad, ac mae hyn yn ystyriaeth bwysig iawn.

Yn hollbwysig, mae gan Ynys Môn hefyd weithlu niwclear medrus iawn a mynediad gwych i adnoddau oeri dŵr. Mae ganddi hefyd seilwaith hanfodol, yn cynnwys cysylltiad i'r grid trydan cenedlaethol, Mae Penrhyn Wylfa yn safle craig galed sy'n cynnig amodau sylfaen gwych ar gyfer gorsaf bŵer newydd ac mae'n ddigon uchel uwchben lefel y môr i osgoi perygl difrifol o lifogydd.

Cafodd ardal Wylfa ei enwebu fel safle ar gyfer datblygiad niwclear posib gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a RWE npower.

Ar 9 Tachwedd 2009, cyhoeddodd y Gweinidog dros Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Milliband, bod Wylfa yn un o 10 safle wedi eu cynnwys yn y Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol (NPS) drafft. Mae'r Llywodraeth yn awr wedi dechrau rhaglen o ymgynghoriad manwl ar y ddogfen hon ac wedi cynnal digwyddiadau penodol i Wylfa ar 7-9 Ionawr 2010.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 22 Chwefror 2010 a bydd NPS drafft, gyda safleoedd awgrymedig, yn cael ei gyflwyno i'r Senedd ar gyfer cymeradwyaeth yn 2010. Ar ôl hynny, byddai angen i ddatblygwyr unigol, fel Pŵer Niwclear Horizon, geisio caniatâd am gynllunio a mathau eraill o ganiatâd i adeiladu gorsaf newydd a byddai hyn yn golygu ymgynghoriad cyhoeddus pellach.

Gallai gorsaf newydd greu hyd at 5,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a rhyw 800 o swyddi parhaol yn gweithredu, hyfforddi a chynnal a chadw'r orsaf, a allai gynyddu i 1,000 yn cynnwys staff cefnogi. Yn ogystal, gellir disgwyl i nifer y gweithlu gynyddu o hyd at 1,000 yn ystod y cyfnodau o gynnal a chadw y bydd eu hangen ar yr orsaf. Mae ein profiad yn dangos bod datblygiad gorsaf bŵer sylweddol yn chwistrellu sawl miliwn o bunnau'r flwyddyn i'r economi leol unwaith mae'n weithredol trwy gyflogaeth uniongyrchol a'r galw am nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau lleol. Mae hefyd yn debygol y gallai gorsaf bŵer niwclear newydd helpu i gadarnhau Ynys Môn fel canolfan arbenigedd mewn technoleg niwclear, gan arwain at fuddiannau eang yn y tymor hir.

Mae gorsafoedd pŵer niwclear modern yn adnoddau diwydiannol mawr, ond maent wedi eu cynllunio i fod mor gryno â phosib. Mae union olwg yr orsaf yn dibynnu ar y fath o dechnoleg sy'n cael ei defnyddio. Os hoffech weld delweddau wedi eu creu gan gyfrifiadur o'r dechnoleg sy'n cael ei asesu ar hyn o bryd yn y DU, cliciwch yma i fynd i dudalen Technoleg y wefan.

Mae'r map hwn yn dangos yr ardal o dir o amgylch gorsaf bŵer niwclear presennol Magnox North Wylfa A. Byddem yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i leihau'r effaith weledol. Bydd pob ymdrech i liniaru unrhyw effaith negyddol ar y gymuned leol yn cael ei ystyried, yn cynnwys tirlunio sylweddol.

O'r adborth yr ydym wedi ei dderbyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd Trwyn yr Wylfa i'r gymuned a rôl y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn nid oes gennym atebion manwl, ond byddem naill ai'n cynnal, ail-gyfeirio neu amnewid unrhyw lwybrau troed a fyddai'n cael eu heffeithio gan orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa. Rydym yn trafod hyn gyda'r Cyngor Cymunedol lleol a byddai manylion unrhyw lwybrau cyhoeddus penodol yn cael eu penderfynu gyda chais am gynllunio.

CONTACT US

If you have any queries or issues you would like to raise with us, please call our freephone number 0800 954 9516 or email us at wylfaenquiries@horizonnuclearpower.com


Gweld Cwestiynau Cyffredin
View Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Wylfa
Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Oldbury