![]() CWESTIYNAU CYFFREDIN |
|
Rydym yn credu mai symud i economi carbon isel wrth gynnal cyflenwadau ynni fforddiadwy a diogel yw'r her fwyaf y mae'r diwydiant ynni wedi ei wynebu. Mae angen buddsoddiad sylweddol i adeiladu gorsafoedd newydd i gymryd lle gorsafoedd pŵer glo a nwy llosg wrth iddynt gau ac i gwrdd â'r galw cynyddol arfaethedig. Rydym yn amcangyfrif y bydd yr angen am ryw 20-30 GW o seilwaith cynhyrchu pŵer newydd erbyn 2020 yn gofyn am fuddsoddiad fydd yn golygu cannoedd o biliynau o bunnau. Rhaid i'r buddsoddiad hwn ffafrio technolegau carbon isel ac mae angen dybryd amdano. Ffynhonnell: IAEA Mae pŵer niwclear yn dechnoleg carbon isel, sefydledig, wedi ei brofi'n rhyngwladol, Mae'n ffordd hynod o effeithiol o gynhyrchu meintiau mawr o ynni, ac mae ei ôl troed carbon yn ystod ei oes yn debyg i dechnolegau carbon isel eraill fel pŵer gwynt. Mae eu maint yn golygu y gall y trydan sy'n cael ei gynhyrchu gan nifer cymharol fach o orsafoedd pŵer niwclear newydd gael cryn effaith yn nhermau osgoi allyriadau carbon yn y DU. Felly gall niwclear chwarae rôl arwyddocaol yn cwrdd â thargedau ynni ac amcanion y Llywodraeth fel rhan o gymysgedd cytbwys o ynni. Mae buddsoddi mewn cymysgedd amrywiol o danwydd ar gyfer cynhyrchu trydan, yn cynnwys maint sylweddol o ynni niwclear newydd, yn sicrhau diogelu'r cyflenwad yn well. Byddai canolbwyntio ar un dechnoleg neu danwydd - fel nwy - yn golygu y gallai pob gwaith o fewn y dechnoleg honno gael ei effeithio gan un datblygiad anffafriol yn y farchnad, fel prisiau tanwydd uchel iawn. Niwclear yw'r unig dechnoleg carbon isel, sydd wedi ei brofi'n rhyngwladol, sy'n gallu cynhyrchu pŵer llwyth bas parhaus ar raddfa fawr o fewn yr amserlen sydd ei angen i gwrdd â thargedau allyriadau'r Llywodraeth a diogelu'r cyflenwad. Yn ogystal, mae'r wraniwm sydd ei angen i danio gorsafoedd sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd posib ar gael yn barod gan wledydd gwleidyddol sefydlog mewn gwahanol rannau o'r byd i'r ffynonellau sy'n cyflenwi nwy. Hefyd, gellir pentyrru wraniwm yn hawdd os oes angen. Byddai caniatáu cwmnïau ynni i fuddsoddi mewn gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn y DU yn cael effaith cymharol fach ar alw byd eang am wraniwm. Yn ei Bapur Gwyn yn 2008, casglodd y Llywodraeth, gan gymryd bod digon o fwynau wraniwm gradd uchel ar gael i gwrdd â galw byd-eang yn y dyfodol, y dylai fod cronfeydd digonol ar gael i danio unrhyw weithfeydd niwclear newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y DU. Mae'r adroddiad mwyaf awdurdodol ar ffynonellau wraniwm yn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi'n rheolaidd ar y cyd gan Asiantaeth Ynni Niwclear y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a'r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA). Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, gallai ffynonellau ganiatáu cynhyrchu trydan byd-eang am 220 mlynedd ar y raddfa bresennol o ddefnydd, yn defnyddio technoleg adweithydd sydd eisoes yn bodoli. Mae tua hanner y ffynonellau hysbys confensiynol wedi eu lleoli mewn gwledydd OECD sefydlog. Mae'r cyflenwad yn gynaliadwy, gyda ffynonellau sy'n bodoli eisoes yn cael eu hailgyflenwi (o ddarganfyddiadau newydd a chynnydd technegol) yr un mor gyflym ac y maent yn cael eu defnyddio. Mae niwclear yn dechnoleg aeddfed, sydd wedi ei brofi ac sy'n gallu cael ei ddefnyddio ar raddfa fawr. Dros gyfnod bywyd gwaith niwclear, mae dadansoddiad gan y Llywodraeth yn dangos ar unrhyw bris carbon positif bod y costau i bob uned o gynnyrch trydan (sy'n cael eu galw'n gostau wedi eu lefelu) yn rhatach na chynnyrch wedi ei danio gan nwy. 'Dyw tanwydd niwclear ddim ond yn gyfrifol am gyfran fach o gostau cyffredinol rhedeg gwaith (rhyw 10%), gyda mwyn wraniwm yn gyfrifol am ryw 1.5% o gyfanswm costau rhedeg o'i gymharu â gwaith nwy ble mae costau tanwydd yn cynrychioli rhyw 70% o gostau rhedeg. Yn hanesyddol, mae prisiau tanwydd ffosil wedi bod yn gyfnewidiol ac yn aml yn amodol ar godiadau sydyn. Mae codiad mewn costau tanwydd ffosil yn trosi'n gyflym i godiad mewn costau cynhyrchu a phrisiau trydan am fod costau tanwydd yn cynrychioli cyfran uwch o gyfanswm cost cynhyrchu trydan. Felly gall pŵer niwclear chwarae rhan yn rhwystro prisiau cyfnewidiol o'r fath. Mae'r Llywodraeth wedi ei gwneud hi'n glir y bydd yn rhaid i fuddsoddwyr mewn gorsafoedd pŵer niwclear newydd gwrdd â chostau llawn datgomisiynu a chyfran llawn bob gweithredydd o gostau rheoli gwastraff. Ar hyn o bryd rydym mewn trafodaethau gyda'r Llywodraeth am y manylion a'r cynlluniau ariannu ar gyfer gwastraff a datgomisiynu. Bydd y gost yn cael ei ystyried yn llawn pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau buddsoddi. Mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad uniongyrchol o ddatgomisiynu gorsafoedd pŵer niwclear a thrin a storio gwastraff ymbelydrol, yn cynnwys dealltwriaeth o'r costau a'r dechnoleg. Mae gan y DU gyfundrefn rheoleiddio niwclear sy'n gryf, yn gadarn ac annibynnol ar gyfer sicrhau bod gwastraff gorsafoedd pŵer presennol a gwastraff fydd yn codi o raglen o orsafoedd pŵer niwclear newydd yn y DU yn cael ei waredu'n ddiogel Mae datgomisiynu'r math o adweithyddion fydd yn cael eu hadeiladu mewn rhaglen adeiladu newydd bellach yn dechnoleg aeddfed. Ni fydd angen technegau newydd i ddatgomisiynu gorsafoedd pŵer niwclear newydd. A dweud y gwir, mae llai o gyfaint gwastraff a chyflyru gwastraff yn iawn wrth iddo gael ei greu yn golygu bod yr her o ddatgomisiynu yn llawer llai na gyda chenedlaethau cynharach o orsafoedd pŵer niwclear yn y DU. Yn y DU, mae sefydliadau sy'n cynrychioli ystod lawn yr adnoddau cylchred tanwydd wedi eu datgomisiynu'n llwyddiannus. Mae Pŵer Niwclear Horizon yn cymryd y cyfrifoldeb dros ddiogelwch y cyhoedd yn ddifrifol iawn. Mae cludo defnydd ymbelydrol wedi bod yn digwydd yn ddiogel o amgylch y byd ac yn y DU am nifer o flynyddoedd. Caiff ei reoleiddio gan fframweithiau diogelwch rhyngwladol a chenedlaethol a chaiff ei reoli gan reolyddion cenedlaethol, pob un ohonynt yn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'r amserlen ar gyfer datblygu a darparu rhaglen o adeiladu niwclear newydd yn rhoi cyfle i drefnu'r sgiliau, adnoddau a'r gallu i gynhyrchu angenrheidiol. Yr hyn sy'n allweddol yw hyder gan y diwydiant y bydd rhaglen adeiladu newydd yn mynd yn ei blaen. Eisoes mae gan y DU allu mewn rheolaeth rhaglen, prosiect ac adeiladu ac mewn adeiladu peirianneg sifil a gosod gweithfeydd. Rhaid i ni hefyd annog a buddsoddi mewn peirianwyr a thechnolegwyr ifanc, yn arbennig ym meysydd diogelwch a thrwyddedu, gwyddoniaeth niwclear a gwyddoniaeth beirianegol ac amgylcheddol. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu etifeddiaeth barhaol o weithwyr medrus a gallu i adeiladu. Mae gorsafoedd pŵer niwclear modern yn strwythurau gwydn iawn ac mae ganddynt amddiffyniad aml lefel yn erbyn bygythiadau corfforol fel awyrennau neu effeithiau eraill. Mae Swyddfa ar gyfer Diogelwch Niwclear Sifil (OCNS) y Llywodraeth yn gyfrifol am gymeradwyo trefniadau diogelwch ar gyfer y diwydiant ac am orfodi cydymffurfiaeth. Mae adnoddau niwclear hefyd yn cael eu monitro gan nifer o gyrff domestig a rhyngwladol sy'n sicrhau ystod lawn o drefniadau diogelwch llym. Yn y DU mae gan y diwydiant niwclear ei heddlu pwrpasol ei hun ar ffurf y Cwnstabliaeth Niwclear Sifil (CNC). Gan fod Diogelwch Niwclear Sifil dan arolygaeth barhaol, prif rôl y CNC yw cyflawni gweithgareddau gwrthderfysgaeth ac mae'n rhan o'r drefn diogelwch mewn safleoedd niwclear presennol. Ynghyd a'r ffactorau eraill uchod, mae hyn yn sicrhau bod unrhyw fath o risg diogelwch yn aros yn y lleiafswm. Mae'r diwydiant niwclear yn y DU yn cael ei reoleiddio'n fanwl iawn gan yr Arolygaeth Safleoedd Niwclear (NII) sy'n sicrhau bod pob gwaith niwclear yn cael ei adeiladu a'i weithredu i'r lefelau diogelwch uchaf. Ochr yn ochr â'r NII, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod arllwysiadau gwastraff ymbelydrol ac effeithiau amgylcheddol eraill yn cael eu rheoli'n gywir. Mae polisïau diogelwch niwclear yn cynnwys canfod ac asesu'r holl beryglon a allai arwain at ddamwain, ac yna llunio systemau hollol ddiogel a rhwystrau cyfansawdd i fynd i'r afael a nhw. Cyn i orsaf bŵer niwclear gael ei thrwyddedu yn y DU rhaid i'r perchennog ddangos ei bod yn ddiogel a bod y tebygrwydd o ddefnydd ymbelydrol heb ei reoli yn dianc yn llai nag un mewn miliwn ar gyfer pob blwyddyn ym mywyd yr adweithydd. Er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn, rhaid paratoi ar gyfer bob digwyddiad y gellir ei ddychmygu, o ddaeargrynfeydd a thanau i wrthdrawiad awyren. Byddai'n rhaid i gadwyn gyfan o fethiannau ddigwydd er mwyn i faint mawr o ddefnydd ymbelydrol ddianc o orsaf bŵer niwclear modern,. Gyda'r mesurau diogelwch sy'n bodoli, mae'r fath ddigwyddiad yn hynod o annhebygol ac mae'r tebygrwydd bod maint arwyddocaol o ddefnydd ymbelydrol yn dianc yn llai fyth o ystyried y safonau llym sydd mewn bodolaeth wrth gynllunio ac adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear newydd.
Mae'n gynnar iawn i drafod sut y bydd swyddi'n cael eu dyrannu mewn unrhyw orsaf newydd, ond pan fyddwn yn recriwtio staff i adeiladu a gweithredu gorsaf a phan fyddwn yn cyflogi contractwyr a chyflenwyr fe fyddem yn gobeithio manteisio ar sgiliau ac arbenigedd lleol.
Gweld Cwestiynau Cyffredin View Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Wylfa Gweld Cwestiynau Cyffredin am ein safle yn Oldbury |



