EIN SAFLEOEDD: OLDBURYMae tir yn Shepperdine, ger pentref Oldbury yn ne Swydd Gaerloyw ac ar lannau Aber Hafren yn lleoliad da ar gyfer gwaith niwclear Newydd posib ac yn darparu'r holl anghenion hanfodol. Byddai'r orsaf newydd yn cynhyrchu pŵer carbon isel angenrheidiol. Mae gan y safle hanes cadarn o gynhyrchu pŵer niwclear, sylfaen sgiliau lleol profiadol a chysylltiad da i'r rhwydwaith trawsyrru trydan. |
|
Mae 150 hectar o dir y drws nesaf i'r orsaf bŵer niwclear Magnox sydd eisoes yn bodoli wedi ei gynnwys yn rhestr ddrafft y Llywodraeth o safleoedd y mae'n eu hystyried yn strategol addas ar gyfer datblygiad niwclear newydd. Llwyddodd Pwer Niwclear Horizon i sicrhau tir yma trwy arwerthiant Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) yn Ebrill 2009 ac yn yr hydref y llynedd cwblhawyd y gwaith ymchwiliad tir er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r safle. Fel rhan o hyn ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y math o adweithydd y gellid ei adeiladu yn Oldbury. Mae hyn yn cynnwys adolygiad manwl o'r ddau fath o dechnoleg sy'n cael eu hystyried fel rhan o broses Asesiad Cynllunio Generig (GDA) parhaus y Llywodraeth. Ceir mwy o wybodaeth am y technolegau ar wefan y Llywodraeth: http://www.hse.gov.uk/newreactors/newnuclearprogramme.htm Bydd y broses NPS yn penderfynu pa mor strategol addas yw Oldbury ar gyfer gorsaf newydd (byddai'n dal angen caniatâd cynllunio) - ceir manylion pellach ar wefan lleoli niwclear y Llywodraeth: https://www.energynpsconsultation.decc.gov.uk/ Byddai gorsaf bŵer niwclear newydd yn Oldbury yn cynhyrchu llawer mwy o drydan na'r orsaf bresennol sy'n golygu y byddai angen tyrau oeri i oeri'r stem a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Mae astudiaeth wedi dechrau i asesu'r gwahanol fathau o dyrrau oeri a fyddai'n cael eu defnyddio. Bydd yr astudiaeth hon yn cynnwys effeithiau amgylcheddol, economaidd a gweladwy pob un dechnoleg. Rydym yn ymroddedig i adael i'r gymuned leol wybod beth sy'n digwydd ym mhob cam o'r broses ddatblygu. Yn 2009 cynhaliwyd dwy rownd o arddangosfeydd gennym yn ogystal â sesiwn galw heibio a dosbarthwyd cylchlythyrau i'r cymunedau sy'n agos at Oldbury, er mwyn i drigolion gael gwybod am ein cynlluniau. Byddwn yn parhau ac ehangu'r gweithgareddau ymrwymo cyhoeddus hyn yn 2010 a hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio yn unol â gofynion y rheolau cynllunio newydd. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i gymunedau lleol i leisio barn a'n helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd posib. Llyfrgell DogfennauDogfennau'r broses caniatáu: Mae'r adroddiad cwmpasu yn nodi cwmpas yr astudiaethau manwl arfaethedig i sefydlu effaith amgylcheddol y prosiect. Bydd hyn yn golygu Datganiad Amgylcheddol sy'n rhan hanfodol o'r cais am gynllunio.
I lawr lwytho copi o Adroddiad Cwmpasu Oldbury ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
I lawr lwytho copi o ddogfen crynodeb o Adroddiad Cwmpasu Effaith Amgylcheddol ar ffurf PDF cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda: Cwestiynau Cyffredin Rydym yn y broses o ddatblygu gwefan Oldbury er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl i randdeiliaid ac aelodau'r gymuned am ein cynlluniau datblygu. Rydym yn rhagweld y bydd y safle'n weithredol ym mis Mawrth 2010. |


