PAM NIWCLEAR NEWYDD?Bydd gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn chwarae rhan allweddol yn cwrdd ag anghenion ynni'r DU yn y dyfodol a lleihau ei allyriadau carbon. |
Pam fod angen gorsafoedd pŵer niwclear newydd arnom - yr herMae symud i economi carbon isel gan barhau i gynnal cyflenwadau ynni fforddiadwy a diogel yn un o'r herion mwyaf sy'n wynebu'r DU, ac mae'r diwydiant ynni'n gweithio'n galed i geisio ateb yr her. Yn ôl deddfwriaeth Ewropeaidd, mae rhyw 30 y cant o'r gorsafoedd wedi eu tanio gan lo ac olew sydd eisoes yn bodoli yn y DU i fod i gau erbyn 2015. Yn ogystal, mae gorsafoedd niwclear hŷn eisoes yn cau ac yn ôl cynlluniau presennol bydd y mwyafrif ohonynt wedi cau erbyn 2020 wrth iddynt ddod i ddiwedd eu hoes weithredol. Er gwaethaf ymdrechion parhaus i wella effeithlonrwydd ynni, disgwylir i'r galw am drydan gynyddu a heb weithfeydd newydd yn eu lle, gallai'r DG wynebu diffyg sylweddol mewn cyflenwad trydan. Gyda nifer o orsafoedd pŵer i fod i gau dros y 10-15 mlynedd nesaf, bydd angen rhwng 20-30GW o allu cynhyrchu newydd erbyn 2025. Pam fod angen gorsafoedd pwer niwclear newydd arnom - ein datrysiadBydd goresgyn y diffyg pŵer hwn yn gofyn am fuddsoddiad fydd yn golygu cannoedd o biliynau o bunnoedd. Byddai canolbwyntio ar un dechnoleg neu danwydd sengl yn golygu y gallai pob gwaith o fewn y dechnoleg honno gael ei effeithio gan un datblygiad anffafriol yn y farchnad, fel prisiau tanwydd uchel iawn Rhaid i unrhyw fuddsoddiad sydd ei angen helpu i leihau dwysedd carbon hefyd ac mae angen cydbwyso technolegau ifanc gyda dulliau cynhyrchu carbon isel sydd eisoes wedi eu profi. Rydym yn rhagweld y bydd niwclear yn chwarae rhan bwysig yn y trawsnewid hwn fel rhan o gymysgedd eang o dechnolegau cynhyrchu yn cynnwys ynni adnewyddadwy, nwy a glo. Mae pŵer niwclear yn dechnoleg carbon isel, sefydledig, wedi ei brofi'n rhyngwladol, sydd a'r gallu i gynhyrchu trydan yn ddibynadwy, ar raddfa fawr yn y dyfodol agos. Mae'r effaith carbon y mae'n ei gynhyrchu yn ei oes yn debyg i dechnolegau carbon isel eraill fel pŵer gwynt*. Ffynhonnell: IAEA Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth yr allyriadau sy'n cael eu cysylltu gydag adeiladu a datgomisiynu gweithfeydd niwclear a gyda chloddio, cludo, coethi tanwydd, cynhyrchu tanwydd a storio tanwydd wedi darfod. Yn ogystal, mae'r wraniwm sydd ei angen i redeg gorsafoedd sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd posib ar gael yn rhwydd a gellir dod o hyd iddo mewn gwledydd sy'n wleidyddol sefydlog mewn gwahanol leoliadau daearyddol i ffynonellau o nwy, glo a chyflenwadau olew. |


