RHEOLI GWASTRAFFMae Pŵer Niwclear Horizon yn ymrwymedig i reoli gwastraff ymbelydrol yn ddiogel ac i'r safonau uchaf. Trwy ein prif gwmnïau, mae gennym ni - a'r diwydiant niwclear ehangach - brofiad sylweddol o reoli sgil-gynhyrchion y diwydiant niwclear yn llwyddiannus. Byddwn yn gweithio gyda'r holl awdurdodau perthnasol a'r cymunedau lleol i sicrhau ein bod yn parhau yn dryloyw ac yn rhoi gwybod i bobl am ein gweithgareddau. Mae'r Llywodraeth wedi nodi'n glir y bydd angen i bob buddsoddwr mewn gorsafoedd pŵer niwclear newydd eu hariannu, datblygu a'u hadeiladu. Mae hyn yn cynnwys talu'n llawn am gostau datgomisiynu a chyfran llawn costau rheoli gwastraff pob gweithredydd. Mae gan y DU gyfundrefn rheoleiddio niwclear sy'n gryf, yn gadarn ac annibynnol a bydd yn chwarae rhan allweddol yn helpu i sicrhau bod gwastraff gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn cael ei waredu'n ddiogel. Trwy ein cwmnïau cyfranddalwyr, E.ON a RWE, mae gennym dros 45 mlynedd o brofiad uniongyrchol o ddatgomisiynu gorsafoedd pŵer niwclear a thrin a storio gwastraff. Rydym yn deall y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio ac yn deall yr angen am fuddsoddiad sylweddol. Mae diwydiant ynni niwclear y DU yn creu gwastraff o lefel isel, canolig ac uchel. Gwastraff lefel isel - yn cynnwys dillad gwarcheidiol, defnyddiau glanhau ac eitemau eraill a allant fod wedi eu halogi. Fel arfer caiff ei storio'n ddiogel ar y safle cyn cael ei waredu'n ddiogel yn storfa gwastraff lefel isel y DU yn Drigg, ger Sellafield, ac fel arfer mae hyn yn golygu dim mwy nag ambell i lwyth lori normal y flwyddyn ar gyfer cynlluniau sy'n gweithredu ar hyn o bryd. Gwastraff lefel canolig - yn cynnwys cladin tanwydd a chydrannau adweithydd. Mae'r ymbelydredd yn uwch na gwastraff lefel isel ac mae angen iddo gael ei gysgodi, ond nid yw'n cynhyrchu lefelau sylweddol o wres. Gwastraff lefel uchel - yn bennaf yn cynnwys tanwydd wedi darfod ac yn rhyw 0.3 y cant o'r gwastraff niwclear sydd eisoes yn bodoli yn y DU yn ôl cyfaint. Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn ymchwilio ac yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gael cyfleuster gwaredu daearegol yn y DU, fydd yn galluogi ynysu gwastraff yn ddwfn o fewn ffurfiant craig addas i sicrhau na fydd meintiau sylweddol o ymbelydredd byth yn cyrraedd yr wyneb. Mae mwy o wybodaeth ar gael am yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud ynglŷn â gwastraff ymbelydrol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). |


