Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Power lines

RHEOLI YMBELYDREDD

Mae'r mwyafrif o'n cysylltiad gydag ymbelydredd yn dod o ffynonellau naturiol yn cynnwys nwy radon o'r ddaear, pelydrau cosmig o'r gofod ac ymbelydredd o greigiau a phridd.


Mae ffynonellau naturiol o'r fath yn gyfrifol am ryw 85 y cant o'r dos ymbelydredd cefndir cyfartalog, gyda ffynonellau artiffisial yn gyfrifol am ryw 15 y cant. Mae bron yr holl ymbelydredd cefndir artiffisial yn dod o driniaethau meddygol fel pelydr- X, ac mae gorsafoedd pŵer niwclear yn gyfrifol am lai na 0.1% o'n dos blynyddol.

Mae'r effaith ychwanegol uchaf posib o ymbelydredd ar unrhyw aelod o'r cyhoedd gan orsaf bŵer niwclear tua'r un faint, er enghraifft, a'r dos y byddent yn ei gael o ganlyniad i hedfan o'r DU i Efrog Newydd ac yn ôl bob blwyddyn, Nid yw'r lefel hon felly'n cynrychioli unrhyw risg arwyddocaol i iechyd pobl sy'n byw yn agos at orsafoedd pŵer niwclear.

Rydym yn ymrwymedig i reoli cynhyrchu pŵer yn ddiogel ym mhob un o'n safleoedd ac fe fyddwn yn cydweithio gyda'r awdurdodau perthnasol i sicrhau bod ein safleoedd yn gweithredu'n radiolegol ddiogel trwy gydol eu hoes a thrwy gydol y broses datgomisiynu.