Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
GYRFAOEDD    AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Chwilio:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Consultation at Wylfa

EIN SAFLEOEDD: WYLFA

Mae gan Wylfa, ar Ynys Môn, hanes sefydledig o gynhyrchu pŵer niwclear a sylfaen sgiliau lleol profiadol. Mae gan Ynys Môn uchelgais o gyrraedd ei photensial fel canolfan cynhyrchu carbon isel ar gyfer y dyfodol ac mae'n cydnabod y rhan allweddol y gallai gorsaf bŵer newydd ei chwarae.


Yn ogystal â seilwaith hanfodol, yn cynnwys cysylltiad i'r grid trydan cenedlaethol, mae gan Ynys Môn weithlu medrus iawn yn y maes niwclear a mynediad gwych i adnoddau oeri dŵr uniongyrchol o'r môr.

Mae'r safle arfaethedig ar gyfer datblygiad yn cynnwys 232 hectar o dir a sicrhawyd gan npower yn hwyr yn 2008 gyda Cytundeb Cysylltu gyda'r Grid 3600MW a thir pellach wedi ei sicrhau yn dilyn menter ar y cyd, Pŵer Niwclear Horizon erbyn hyn, gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a chwmni ynni EDF trwy broses arwerthu yn Ebrill 2009.

Cafodd y tir sy'n amgylchynu'r orsaf bŵer niwclear Magnox bresennol yn Wylfa ei enwebu yn Asesiad Lleoli Strategol y Llywodraeth ym mis Mawrth 2009. Ers hynny mae'r safle wedi ei gynnwys yn nrafft Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol (NPS) y Llywodraeth, oedd yn cynnwys rhestr o safleoedd sy'n cael eu hystyried yn strategol addas ar gyfer datblygiad niwclear.

Bydd y broses NPS yn penderfynu ar ba mor strategol addas yw'r ardal ar gyfer gorsaf newydd (byddai'n dal angen caniatâd cynllunio - ceir manylion pellach ar wefan lleoli niwclear y Llywodraeth. Mae Penrhyn Wylfa'n cynnig amodau sylfaen gwych ar gyfer gorsaf bŵer newydd ac yn ddigon uchel uwchben lefel y môr i osgoi perygl difrifol o lifogydd.

Mae gan Pŵer Niwclear Horizon ymrwymiad cryf i weithio gyda'r Llywodraeth, y Cyngor Sir, cyrff lleol a chenedlaethol a'r gymuned i fuddsoddi'n sylweddol mewn gorsaf bŵer niwclear newydd i Ynys Môn. Mae gwaith trwyddedig i ymchwilio'r tir ac astudiaethau ecolegol eisoes wedi cychwyn ac mae manylion pellach unrhyw orsaf bŵer newydd yn Wylfa yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, yn cynnwys lleoliad tebygol o fewn y tir sydd ar gael a'r math o adweithydd fydd yn cael ei ddefnyddio.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad manwl o'r ddau fath o dechnoleg sy'n cael eu hystyried fel rhan o broses Asesiad Cynllunio Generig (GDA) parhaus y Llywodraeth. Ceir mwy o wybodaeth am y technolegau ar wefan y Llywodraeth: http://www.hse.gov.uk/newreactors/newnuclearprogramme.htm

Yn unol â'n hymroddiad i ymrwymiad cymunedol, cynhaliodd Pŵer Niwclear Horizon sesiynau galw heibio ym mis Mawrth 2009 ac arddangosfeydd cyhoeddus ym mis Tachwedd 2009. Hefyd, dosbarthwyd cylchlythyrau i drigolion lleol (Mehefin 2209) ac Ynys Môn (Hydref 2009) er mwyn i bobl gael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Byddwn yn parhau i ymrwymo pobl leol o amgylch Wylfa yn 2010 a thu hwnt i hynny ac yn cynnal gweithgareddau ymgynghori pellach cyn gwneud cais am gynllunio yn unol â'r drefn gynllunio.

Llyfrgell Dogfennau

Dogfennau'r broses caniatáu:

Mae'r adroddiad cwmpasu yn nodi cwmpas yr astudiaethau manwl arfaethedig i ganfod effaith amgylcheddol y prosiect. Bydd hyn yn golygu Datganiad Amgylcheddol sy'n rhan hanfodol o'r cais am gynllunio.

I lawr lwytho copi o'r Adroddiad Cwmpasu ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Adroddiad Cwmpasu Wylfa (PDF | 35.8 MB)

I lawr lwytho copi o'r Adroddiad Cwmpasu yn Gymraeg ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Adroddiad Cwmpasu Wylfa (PDF | 35.9 MB)

Cylchlythyrau:

I lawr lwytho copi o gylchlythyr Wylfa Mai 2010 ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Gylchlythyr Wylfa Mai 2010 (PDF | 362Kb)

I lawr lwytho copi o gylchlythyr Wylfa Hydref 2009 ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Gylchlythyr Wylfa Hydref 2009 (PDF | 2Mb)

I lawr lwytho copi o gylchlythyr Wylfa Haf 2009 ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Gylchlythyr Wylfa Haf 2009 (PDF | 0.3Mb)

Defnyddiau'r arddangosfa gyhoeddus:

Pecyn gwybodaeth Tachwedd 2009 - cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Wylfa pecyn gwybodaeth Tachwedd 2009 (PDF | 2Mb)

Cwestiynau Cyffredin:

Cwestiynau Cyffredin - rydym yn y broses o ddatblygu gwefan Wylfa er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl i randdeiliaid ac aelodau'r gymuned am ein cynlluniau datblygu. Rydym yn rhagweld y bydd y safle'n weithredol yn y Gwanwyn 2010.

Cliciwch yma ar gyfer Cwestiynau Cyffredin Wylfa