Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
GYRFAOEDD    AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Consultation at Wylfa

EIN SAFLEOEDD: WYLFA

Mae gan Wylfa, ar Ynys Môn, hanes sefydledig o gynhyrchu pŵer niwclear a sylfaen sgiliau lleol profiadol. Mae gan Ynys Môn uchelgais o gyrraedd ei photensial fel canolfan cynhyrchu carbon isel ar gyfer y dyfodol ac mae'n cydnabod y rhan allweddol y gallai gorsaf bŵer newydd ei chwarae.


Yn ogystal â seilwaith hanfodol, yn cynnwys cysylltiad i'r grid trydan cenedlaethol, mae gan Ynys Môn weithlu medrus iawn yn y maes niwclear a mynediad gwych i adnoddau oeri dŵr uniongyrchol o'r môr.

Mae'r safle arfaethedig ar gyfer datblygiad yn cynnwys 232 hectar o dir a sicrhawyd gan npower yn hwyr yn 2008 gyda Cytundeb Cysylltu gyda'r Grid 3600MW a thir pellach wedi ei sicrhau yn dilyn menter ar y cyd, Pŵer Niwclear Horizon erbyn hyn, gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a chwmni ynni EDF trwy broses arwerthu yn Ebrill 2009.

Cafodd y tir sy'n amgylchynu'r orsaf bŵer niwclear Magnox bresennol yn Wylfa ei enwebu yn Asesiad Lleoli Strategol y Llywodraeth ym mis Mawrth 2009. Ers hynny mae'r safle wedi ei gynnwys yn nrafft Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol (NPS) y Llywodraeth, oedd yn cynnwys rhestr o safleoedd sy'n cael eu hystyried yn strategol addas ar gyfer datblygiad niwclear.

Bydd y broses NPS yn penderfynu ar ba mor strategol addas yw'r ardal ar gyfer gorsaf newydd (byddai'n dal angen caniatâd cynllunio - ceir manylion pellach ar wefan lleoli niwclear y Llywodraeth. Mae Penrhyn Wylfa'n cynnig amodau sylfaen gwych ar gyfer gorsaf bŵer newydd ac yn ddigon uchel uwchben lefel y môr i osgoi perygl difrifol o lifogydd.

Mae gan Pŵer Niwclear Horizon ymrwymiad cryf i weithio gyda'r Llywodraeth, y Cyngor Sir, cyrff lleol a chenedlaethol a'r gymuned i fuddsoddi'n sylweddol mewn gorsaf bŵer niwclear newydd i Ynys Môn. Mae gwaith trwyddedig i ymchwilio'r tir ac astudiaethau ecolegol eisoes wedi cychwyn ac mae manylion pellach unrhyw orsaf bŵer newydd yn Wylfa yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, yn cynnwys lleoliad tebygol o fewn y tir sydd ar gael a'r math o adweithydd fydd yn cael ei ddefnyddio.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad manwl o'r ddau fath o dechnoleg sy'n cael eu hystyried fel rhan o broses Asesiad Cynllunio Generig (GDA) parhaus y Llywodraeth. Ceir mwy o wybodaeth am y technolegau ar wefan y Llywodraeth: http://www.hse.gov.uk/newreactors/newnuclearprogramme.htm

Yn unol â'n hymroddiad i ymrwymiad cymunedol, cynhaliodd Pŵer Niwclear Horizon sesiynau galw heibio ym mis Mawrth 2009 ac arddangosfeydd cyhoeddus ym mis Tachwedd 2009. Hefyd, dosbarthwyd cylchlythyrau i drigolion lleol (Mehefin 2209) ac Ynys Môn (Hydref 2009) er mwyn i bobl gael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Byddwn yn parhau i ymrwymo pobl leol o amgylch Wylfa yn 2010 a thu hwnt i hynny ac yn cynnal gweithgareddau ymgynghori pellach cyn gwneud cais am gynllunio yn unol â'r drefn gynllunio.

Llyfrgell Dogfennau

Dogfennau'r broses caniatáu:

Mae'r adroddiad cwmpasu yn nodi cwmpas yr astudiaethau manwl arfaethedig i ganfod effaith amgylcheddol y prosiect. Bydd hyn yn golygu Datganiad Amgylcheddol sy'n rhan hanfodol o'r cais am gynllunio.

I lawr lwytho copi o'r Adroddiad Cwmpasu ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Adroddiad Cwmpasu Wylfa (PDF | 35.8 MB)

I lawr lwytho copi o'r Adroddiad Cwmpasu yn Gymraeg ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Adroddiad Cwmpasu Wylfa (PDF | 35.9 MB)

Cylchlythyrau:

I lawr lwytho copi o gylchlythyr Wylfa Mai 2010 ar ffurf PDF, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Gylchlythyr Wylfa R hagfyr 2010 (PDF | 362Kb)

Defnyddiau'r arddangosfa gyhoeddus:

Pecyn gwybodaeth Rhagfyr 2010 - cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Wylfa pecyn gwybodaeth Rhagfyr 2010 (PDF | 1Mb)

Cwestiynau Cyffredin:

Cwestiynau Cyffredin - rydym yn y broses o ddatblygu gwefan Wylfa er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl i randdeiliaid ac aelodau'r gymuned am ein cynlluniau datblygu. Rydym yn rhagweld y bydd y safle'n weithredol yn y Gwanwyn 2010.

Cliciwch yma ar gyfer Cwestiynau Cyffredin Wylfa

Cytundeb Perfformiad Cynllunio Wylfa:

Mae Horizon Nuclear Power wedi arwyddo Cytundeb Perfformiad Cynllunio gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer prosiect Wylfa.

Mae Cytundeb o’r fath yn rhan safonol o gynllunio ar gyfer prosiect seilwaith mawr, ac mae’n rhoi’r adnoddau ychwanegol angenrheidiol i’r awdurdod cynllunio lleol, er mwyn iddo allu asesu cynnig datblygu yn annibynnol, gan gyflawni ei ddyletswyddau statudol ar yr un pryd.

Cliciwch yma i weld Cytundeb Perfformiad Cynllunio Wylfa 

Datganiad o Ymgynghori Cymunedol:

Mae Horizon Nuclear Power yr wythnos hon yn cyhoeddi ei Ddatganiad o Ymgynghori Cymunedol (SOCC) ar gyfer yr orsaf pŵer niwclear arfaethedig newydd yn Wylfa.

Mae'r SOCC yn garreg filltir bwysig yn y broses gynllunio gan ei fod yn amlinellu sut bydd Horizon yn ymgynghori'n ffurfiol â phobl leol am ei gynigion ar gyfer gorsaf pŵer niwclear newydd. Mae'n rhoi golwg gyffredinol o sut a pham fydd Horizon yn ymgynghori ac mae 'Wylfa - Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol’ yn ategu'r SOCC drwy roi rhagor o fanylion am y broses ymgynghori.

Cliciwch yma i ddarllen copi o’r SOCC

Cliciwch yma i ddarllen copi o’r ddogfen 'Wylfa - Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol’