
Wylfa Newydd – Ynghylch Ein Safle
Mae safle Wylfa Newydd, ar Ynys Môn, mewn safle delfrydol ar gyfer cynhyrchu pŵer niwclear carbon isel.
Bydd ein cynigion ar gyfer Wylfa Newydd yn dod â buddsoddiad a manteision sylweddol i’r rhanbarth. Gyda biliynau o bunnoedd o seilwaith newydd, mae Pŵer Niwclear Horizon wedi ymrwymo i ddyfodol hirdymor yr ardal.
Mae’r safle ar dir wrth ymyl hen Orsaf Bŵer Wylfa Magnox, sydd bellach yn cael ei datgomisiynu. Mae’n darparu amodau da fel sylfaen i orsaf bŵer niwclear newydd, ac mae’n uchel uwchben lefel y môr, sy’n symleiddio’r broses o reoli peryglon llifogydd.
Ein nod yw sicrhau bod trydan yn dechrau cael ei gynhyrchu yn Wylfa Newydd erbyn canol y 2020au.
Bydd datblygu Wylfa Newydd yn brosiect adeiladu mawr. Mae’n debyg y bydd cydrannau gwahanol ein cynigion yn cynnwys y canlynol:
Ein nod yw sicrhau bod trydan yn dechrau cael ei gynhyrchu yn Wylfa Newydd erbyn canol y 2020au.
Bydd datblygu Wylfa Newydd yn brosiect adeiladu mawr. Mae’n debyg y bydd cydrannau gwahanol ein cynigion yn cynnwys y canlynol:
- gorsaf bŵer, a fydd yn cynnwys dau adweithydd niwclear â gallu cynhyrchu o 2900 MW o leiaf;
- Cyfleusterau Dadlwytho Morol (MOLF);
- strwythur ar gyfer sugno a gollwng dŵr oeri;
- seilwaith trosglwyddo trydan;
- adeiladau cysylltiedig eraill, fel swyddfeydd gweinyddol, cyfleusterau parcio a theithio, llety gweithwyr dros dro, ac o leiaf un ganolfan logisteg;
- adeiladu Campws dros dro ar y Safle ar gyfer y gweithwyr adeiladu;
- cyfleusterau dros dro i storio gwastraff a gweddillion tanwydd;
- ffyrdd mynediad; a
- mesurau a chynlluniau i reoli unrhyw effaith yn ystod cyfnodau adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer newydd.
Mae llawer o gamau allweddol yn y broses gynllunio cyn y gellir dechrau ar unrhyw waith adeiladu. I adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd, rhaid cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r broses hon yn gofyn am gyfnodau hir o ymgynghori a gall gymryd sawl blwyddyn i’w chwblhau.
Rhagor o wybodaeth.
Mae llawer o bobl yn gofyn cwestiynau manwl i ni am y safle ac am ein cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa. Gallwch weld yr atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin ar y dudalen Newyddion ar y wefan hon.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu adborth penodol ynghylch Prosiect Wylfa Newydd gallwch gysylltu â ni ar ein llinell gymorth a’n cyfeiriad e-bost arbennig ar gyfer Wylfa Newydd, drwy ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 954 9516 neu e-bostio ymholiadauwylfa@horizonnuclearpower.com
Edrychwch ar ein tudalen YouTube i ddysgu mwy am ein prosiectau ac i glywed gan ein pobl.
Ein nod yw sicrhau bod trydan yn dechrau cael ei gynhyrchu yn Wylfa Newydd erbyn canol y 2020au.
Bydd ein cynigion ar gyfer Wylfa Newydd yn dod â buddsoddiad a manteision sylweddol i'r rhanbarth.