Nid yw Pŵer Niwclear Horizon yn datblygu ei safleoedd yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn nac yn Oldbury on Severn yn Ne Swydd Gaerloyw.

Bydd Horizon yn parhau i reoli’r ddau safle ac maen nhw’n parhau i fod yn brif leoliadau ar gyfer adeiladu gorsafoedd niwclear newydd. Mae ynni niwclear yn dal i chwarae rhan hollbwysig o ran helpu i fynd i’r afael ag anghenion cynhyrchu ynni’r DU, cyflawni ei thargedau datgarboneiddio a chysoni’r economi drwy dwf gwyrdd a chreu swyddi.

Os oes gennych chi gwestiynau am y naill safle neu’r llall, cysylltwch â info@horizonnuclearpower.com neu ffoniwch 0800 954 9516.