Energy Working for Britain
Horizon Nuclear Power
AMDANOM NI    CYSYLLTWCH Â NI    

Search:       
 Cwmni E.ON a RWE yn y DU
EnglishWelsh
Safety team

DIOGELWCH

Diogelwch ac iechyd a diogelwch y cyhoedd a'n gweithwyr cyflogedig yw ein blaenoriaeth uchaf. Wrth geisio datblygu gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn y DU, daeth E.ON ac RWE profiad sylweddol a dealltwriaeth o bŵer niwclear i Horizon Nuclear Power.


Mae'r diwydiant niwclear yn y DU yn cael ei reoleiddio'n fanwl iawn gan yr Arolygaeth Safleoedd Niwclear (NII) sy'n sicrhau bod pob gwaith niwclear yn cael ei adeiladu a'i weithredu i'r lefelau diogelwch uchaf. Ynghyd a'r NII, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Scottish Environment Protection Agency yn sicrhau bod gwastraff gollyngiadau ymbelydrol ac effeithiau amgylcheddol eraill yn cael eu rheoli'n gywir.

Y Swyddfa ar gyfer Diogelwch Niwclear Sifil (OCNS) yw'r rheolydd diogelwch ar gyfer diwydiant niwclear sifil y DU. Mae'n gorfodi'r fframwaith rheoleiddio cyfreithiol cynhwysfawr sy'n bodoli i sicrhau diogelwch sefydliadau niwclear a chludiant defnydd niwclear.

Mae'r prosesau trwyadl hyn yn sicrhau bod gan sefydliadau niwclear gofnod diogelwch heb ei ail. Mae gan orsafoedd pŵer niwclear y gwytnwch strwythurol i wrthsefyll amodau eithafol, yn cynnwys tân a daeargrynfeydd, yn ddiogel. Yn ogystal, mae defnydd ymbelydrol wedi cael ei gludo'n ddiogel yn y DU ac o amgylch y byd am nifer o flynyddoedd.

E.ON ymysg y mwyaf dibynadwy, diogel a chynhyrchiol yn y byd. Yn ystod y 27 mlynedd diwethaf, cafodd gweithfeydd niwclear y mae E.ON yn berchen arnynt gydnabyddiaeth 24 o weithiau am fod yn arloesol o ran cynhyrchu ynni'n ddiogel. Mae E.ON yn rheoli a gweithredu gorsafoedd pŵer niwclear mewn dwy wlad.

Mae gorsafoedd niwclear RWE wedi bod yn gyfeirnod i brosiectau ymchwil a datblygu yn yr Almaen, yn cynnwys ymchwil i arfer gorau yn rheoli diogelwch a risg. Mae cofnod y cwmni mewn gweithredu niwclear yn cael ei gydnabod yn fyd eang.

Mae E.ON a RWE yn aelodau gweithredol o nifer o gymdeithasau rhyngwladol sy'n gweithio i wella'r diwydiant cynhyrchu niwclear.