TECHNOLEGMae gorsafoedd pŵer niwclear yn cynhyrchu trydan o ynni wedi ei gynhyrchu o hollti atomau wraniwm, sy'n digwydd mewn adweithydd niwclear. |
||||
|
Mae angen rheoli'r broses hon yn ofalus iawn oherwydd yr ynni sylweddol sy'n cael ei ryddhau. Mae'n cael ei reoli trwy ddefnyddio 'safonwr', sy'n arafu'r niwtronau sy'n teithio ar gyflymder uchel o amgylch craidd yr adweithydd. Mae gan bob adweithydd fecanwaith diogelwch digonol i'w cau i lawr yn gyfan gwbl a systemau i sicrhau y bydd hyn yn digwydd mewn unrhyw achos posib. Bydd y genhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear newydd yn hynod o ddiogel, glan ac effeithlon. Ar hyn o bryd mae'r rheolyddion (Arolygaeth Safleoedd Niwclear (NII) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA)) yn cynnal proses o'r enw 'Asesiad Cynllunio Generig' neu GDA, sy'n caniatáu i effeithiau diogelwch ac amgylcheddol cynlluniau gorsaf bŵer niwclear newydd gael eu hasesu cyn gwneud cais i adeiladu'r cynllun hwnnw ar safle arbennig. Fel rhan o'r broses hon maent ar hyn o bryd yn asesu dau fath o dechnoleg adweithydd ar gyfer defnydd posib yn y DU, EPR AREVA ac AP1000 Westinghouse Electric Company (WEC). Mae'r ddwy dechnoleg yn Adweithwyr Dŵr Gwasgeddedig (PWR). Am fwy o wybodaeth am y broses GDA, clicwich yma
|




